Blodwen MairEDWARDSDymuna Meirion, Gwilym, Mair a Gwenda, teulu'r diweddar Blodwen Mair Edwards, 17 Bro Ednyfed Llangefni, (gynt o Wilpol, Llannerchymedd), ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt a gweddill o'r teulu, yn eu profedigaeth o golli Mam, Nain a Hen Nain arbennig iawn. Diolch i feddygfa Coed y Glyn, Llangefni am eu gofal cyson. Yr ydym yn ddyledus iawn hefyd i'r parchedig D. W. Wiliam am ei arweiniad cynnes a theimladwy yn y gwasanaeth, ac i Dylan Ll. Williams am deyrnged hoffus o Nain annwyl. Diolch i Gareth Owen, o Griffith Roberts a'i Fab, am ei drefniadau trefnus, a'i garedigwydd. Diolch hefyd yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd mor hael tuag at Cymdeithas Alzheimers.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Blodwen